Heb amheuaeth, mae'r ddeddfwriaeth wedi codi proffil yr iaith. Mae'r ddelwedd cyrff cyhoeddus yng Nghymru bellach, yn gyffredinol, yn ddwyieithog. Mae gwefannau; dogfennaeth; ffurflenni; arwyddion a chyfarchion ffôn yn gynyddol ddwyieithog. Ymddengys bod cyrff cyhoeddus yn cofleidio'r cysyniad o ddwyieithrwydd.

Fodd bynnag, mewn gwirionedd mae'r dwyieithrwydd a ddarperir yn aml yn docynistaidd. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn cael gwir effaith gadarnhaol eto wrth greu gweithlu dwyieithog sy'n gallu darparu gwasanaethau Cymraeg effeithiol. Cyfarchir yn Gymraeg ar y ffôn, ond ni ellir ateb eu hymholiad yn Gymraeg; mae swyddi gwag yn cael eu hasesu'n ieithyddol ond prin yw nifer y swyddi a hysbysebir yn 'Cymraeg yn hanfodol'. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn mynd yn ddigon pell i gael effaith gadarnhaol wirioneddol ar brofiadau siaradwyr Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ar ben hynny, nid yw natur tocynistaidd llawer o'r rheoliadau yn ddigon i argyhoeddi siaradwyr di-Gymraeg bod buddsoddi yn yr iaith yn rhywbeth gwerth chweil ac annog ewyllys da tuag at y Gymraeg.

At hynny, er na fyddai croeso i wanhau'r Rheoliadau Safonau cyfredol, mae'r system gyfredol yn fiwrocrataidd ac yn gymhleth. Pe bai llai o Safonau a phe na baent mor gymhleth, byddai'n haws i'r staff sicrhau cydymffurfiaeth ac i aelodau'r cyhoedd ddeall eu union hawliau o dan Fesur y Gymraeg. Yn hyn o beth, dylid cyhoeddi codau ymarfer i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth.

Problem fawr gyda Rheoliadau Safonau'r Gymraeg yw yr ymddengys eu bod wedi cael eu llunio yn dilyn fawr ddim ymgynghoriad â'r sectorau perthnasol y maent yn cael eu gosod arnynt. Yn dilyn hynny, mae problemau wedi codi wrth i gyrff anelu at gydymffurfio â'r Safonau. Mewn llawer o achosion nid yw'r Safonau'n briodol, e.e. nid yw'r Safon sy'n mynnu bod Colegau Addysg Bellach yn caniatáu i fyfyrwyr sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn briodol, gan fod hyn yn gwbl ddibynnol ar gymeradwyaeth y corff dyfarnu.

Mae ffocws y ddeddfwriaeth ar orfodi, sy'n amlwg yn hanfodol wrth sicrhau amddiffyn iaith leiafrifol a hawliau ei siaradwyr. Fodd bynnag, ymddengys bod y ffocws hwn ar orfodi wedi bod ar draul hyrwyddo a hwyluso'r defnydd y Gymraeg. Mae angen rhoi mesurau ar waith sy’n darparu adnoddau a chefnogaeth i sicrhau cydymffurfiaeth ac i annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Nid yw'r ddeddfwriaeth gyfredol yn cael gwir effaith ar annog a chefnogi pobl i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg. Dylai'r galw am wasanaethau Cymraeg fod yn uwch nag y mae ar hyn o bryd, o ystyried nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Po fwyaf y galw, y mwyaf y bydd cyrff yn teimlo bod angen darparu eu gwasanaethau Cymraeg fel rhan o ofal cwsmeriaid sylfaenol. Mae angen ysgogi cyrff ac unigolion i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg er mwyn ysgogi defnydd a gwrthsefyll y defnydd y Saesneg yn ddiofyn yn hanesyddol.